Croeso i wefan

Ysgol Bro Tryweryn!

Dyma wefan Ysgol Bro Tryweryn. Mae llawer o hanes i’n hysgol ni – mae safle’r ysgol ar dir hen garchar Gwyddelig a Ffatri Wisgi enwog Stâd Rhiwlas. Eleni, fe fyddwn yn dathlu canmlwyddiant ers sefydlu’r carchar yn Frongoch. Mae gennym gerflun o waith Neil Dalrymple a’r plant y tu allan i’r ysgol yn dangos holl hanes yr ardal. Mae llawer o blant yn dod o ardaloedd gwahanol i’r ysgol – Llidiardau, Rhyduchaf, Maesywaen, Parc, Y Bala, Frongoch, Cwmtirmynach a Llangwm. Ar hyn o bryd, mae 49 o blant yn yr ysgol ac mae gennym 3 dosbarth. Rydym yn gwneud llawer o weithgareddau gwahanol drwy’r flwyddyn gan gynnwys chwaraeon – rygbi, pêl-droed, rownderi, criced, pêl-rwyd, nofio a mabolgampau. Mae gennym glybiau gwahanol cyn ac ar ôl ysgol – Clwb Brecwast, Clwb Coginio, Clwb Cyfrifiaduron a rydym wedi bod yn derbyn gwersi Sbaeneg hefyd! Rydym yn cystadlu bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, ac yn gwneud cyngherddau diolchgarwch a Nadolig i’r ardal leol. Mae ein tripiau ysgol bob tro’n hwyl, ac eleni rydym yn cael mynd i Ynys Enlli, Beddgelert, Castell Caernarfon a’r Hwylfan a llynedd bum ar drip i Lerpwl! Gobeithio y cewch hwyl yn pori trwy ein gwefan! Criw y Cyngor Ysgol Datganiad Preifatrwydd 2019
Adref Newyddion Amdanom Ni Gweithgareddau Calendr Rhieni

Cysylltu

Ysgol Bro Tryweryn

Frongoch

Y Bala

Gwynedd

LL23 7NT

Ysgol Bro Tryweryn © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

@Ysg_

BroTryweryn

Croeso i wefan

Ysgol Bro

Tryweryn!