Croeso i wefan
Ysgol Bro Tryweryn!
Dyma wefan Ysgol Bro Tryweryn. Mae llawer o hanes i’n hysgol ni –
mae safle’r ysgol ar dir hen garchar Gwyddelig a Ffatri Wisgi enwog
Stâd Rhiwlas. Mae gennym gerflun o waith Neil Dalrymple a’r plant y
tu allan i’r ysgol yn dangos holl hanes yr ardal.
Mae llawer o blant yn dod o ardaloedd gwahanol i’r ysgol – Llidiardau,
Rhyduchaf, Maesywaen, Parc, Y Bala, Frongoch, Cwmtirmynach a
Llangwm. Ar hyn o bryd, mae 49 o blant yn yr ysgol ac mae gennym 3
dosbarth.
Rydym yn gwneud llawer o weithgareddau gwahanol drwy’r
flwyddyn gan gynnwys chwaraeon – rygbi, pêl-droed, rownderi,
criced, pêl-rwyd, nofio a mabolgampau. Mae gennym glybiau
gwahanol cyn ac ar ôl ysgol – Clwb Brecwast, Clwb Coginio, Clwb
Cyfrifiaduron a rydym wedi bod yn derbyn gwersi Sbaeneg hefyd!
Rydym yn cystadlu bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, ac yn
gwneud cyngherddau diolchgarwch a Nadolig i’r ardal leol.
Criw y Cyngor Ysgol
•
Datganiad Preifatrwydd 2019
Cysylltu
Ysgol Bro Tryweryn
Frongoch
Y Bala
Gwynedd
LL23 7NT
Ysgol Bro Tryweryn © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs
@Ysg_
BroTryweryn